Baner Gogledd Iwerddon
Gwedd
Baner yr Undeb yw'r unig faner swyddogol yng Ngogledd Iwerddon. Rhwng 1952 a 1973 defnyddiwyd baner Ulster, sef maes gwyn gyda chroes goch. Yng nghanol y groes mae seren wen chwe-phwynt gyda Llaw Goch Ulster yn ei chanol a choron uwch ei phen;
Addasiad yw Baner Wlster o Faner Lloegr gyda choron Lloegr a symbol yr Unoliaethwyr. Mae'n dal i gael ei defnyddio gan rhai Unoliaethwyr.
Mae gweriniaethwyr Gogledd Iwerddon yn gwrthod y ddwy faner swyddogol yn gyfangwbl ac yn arddel yn eu lle Baner Iwerddon.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) FOTW: Northern Ireland